Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Chwefror 2021

Amser: 09.30 - 11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11121


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Siân Gwenllian AS

Mike Hedges AS

Mark Isherwood AS

Rhianon Passmore AS

Mark Reckless AS

Tystion:

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Georgina Owen (Ail Glerc)

Mike Lewis (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod rhithwir.

1.2 Nododd y Cadeirydd fod Nick Ramsay AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Mark Isherwood AS fel aelod newydd o'r Pwyllgor.

2       Papur(au) i’w nodi

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.</AI2>

2.1     PTN 1 - Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru: Ymateb Archwilio Cymru i argymhellion y Pwyllgor - 22 Ionawr 2021

2.2     PTN 2 - Llythyr gan Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 - 27 Ionawr 2021

2.3     PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwybodaeth am gyfalaf trafodiadau ariannol a chyllid canlyniadol fformiwla Barnett i Gymru - 21 Ionawr 2021

2.4     PTN 4 - Ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru - ymateb Llywodraeth Cymru - 19 Ionawr 2021

2.5     PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - cyfraddau amhreswyl a throthwyon Treth Trafodiadau Tir (TTT) - 2 Chwefror 2021

2.6     PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - 2 Chwefror 2021

2.7     PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwaith modelu ar gyfer prydau ysgol am ddim - 9 Chwefror 2021

2.8     PTN 8 - Llythyr gan Hafal: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - 17 Chwefror 2021

3       Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch trydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

- Manylion pellach, drwy'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.

- Gwybodaeth bellach, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynghylch cronfa galedi’r awdurdodau lleol, ac yn benodol ynghylch y fformiwla sy'n ymwneud ag arbedion a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig.

- Manylion pellach ynghylch y cyllid sydd wedi’i ddyrannu i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.

</AI11>

<AI12>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

5       Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI13>

<AI14>

6       Trafod Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2021-22

6.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

</AI14>

<AI15>

7       Trafod papur y flaenraglen waith

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>